Mae’r papur briffio hwn yn rhoi gwybodaeth ar gyfer trafodaethau’r Pwyllgor am ddwy ddeiseb: P-05-1011 a P-05-1015

Rhif y ddeiseb: P-05-1011

Teitl y ddeiseb: Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol

Geiriad y ddeiseb: Mae posibilrwydd cryf y bydd yn rhaid parhau i gadw pellter cymdeithasol ar ôl mis Medi pan fydd y flwyddyn ysgol newydd yn dechrau. Ni fydd digon o le yn yr ysgolion i’r holl ddisgyblion ddychwelyd. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol ac undebau athrawon i ddod o hyd i ffyrdd o sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg sydd ei hangen arnynt i wneud cynnydd addysgol. At y diben hwn, bydd angen cyfuniad o wersi yn yr ysgol a gwersi gartref a gaiff eu cyflwyno drwy ddosbarthiadau rhithwir.

Gwybodaeth ychwanegol: Os bydd angen parhau i gadw pellter cymdeithasol ar ôl mis Medi, mae angen i Lywodraeth Cymru ddechrau datblygu strategaeth genedlaethol i addysgu ein plant ac i gynorthwyo’r plant hynny sy’n dilyn y mesurau gwarchod.

Mae’n debygol mai dim ond traean o’r plant fydd yn gallu bod yn yr ysgol ar unrhyw un adeg, felly bydd angen cyfuniad o wersi i’w cyflwyno yn yr ysgol a gwersi rhithwir ar-lein i’w cyflwyno drwy Systemau Rheoli Dysgu.

Bydd angen cynorthwyo athrawon, ysgolion ac awdurdodau lleol, a darparu cyllid i dalu am y gost o sefydlu platfformau dysgu, ymdrin â materion diogelu a hefyd i gyflwyno gwersi ar-lein a fydd yn galw am set sgiliau gwahanol i’r arfer.

Ni all Llywodraeth Cymru ddiystyru’r broblem hon. Mae gwledydd fel Singapôr a Tsieina yn croesawu’r technolegau hyn oherwydd cyfyngiadau Covid ar ysgolion. Mae angen i Gymru fod ar flaen y gad yn y cyswllt hwn ac arwain y ffordd i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Rhif y ddeiseb: P-05-1015

Teitl y ddeiseb: Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol

Geiriad y ddeiseb:

Gyda’r system profi, tracio ac olrhain ar waith a halogi cymunedol yn isel iawn ledled Cymru, ni ddylid cau ysgolion eto yng Nghymru.

Mae hyn yn hanfodol ar gyfer lles meddwl ac addysg plant, yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.

Gwybodaeth ychwanegol: Os yw unrhyw ysgol yn gorfod cau oherwydd ymlediad coronafeirws sylweddol, rhaid iddynt allu cynnal pob gwers ar-lein yn fyw drwy gynllun addysg wrth gefn. At hynny, rhaid iddynt hefyd sicrhau bod pob plentyn yn bresennol yn y sesiwn gofrestru a’r gwersi, gan fynd ar drywydd unrhyw absenoldeb yn yr un ffordd ag y gwneir hynny yn yr ysgol er mwyn sicrhau diogelwch plant a pharhad addysg.

*Rhaid i’r dull addysgu hwn ond parhau am gyfnod mor fyr â phosibl cyn i bob plentyn orfod mynychu’r ysgol yn ôl yr arfer.

Dylai ysgolion arbennig ar gyfer plant ADY yn cynnwys plant anabl beidio â chau, a dylent fod â chynllun wrth gefn i allu parhau ar agor hyd yn oed yn ystod cyfnodau clo lleol.


1.     Crynodeb

§    Ailagorodd ysgolion ledled Cymru i bob disgybl yn llawn amser ddechrau mis Medi 2020. Daeth Llywodraeth Cymru i’r penderfyniad hwn ar 9 Gorffennaf 2020 yn dilyn cyngor gan ei Chell Cyngor Technegol.

§    Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw cadw ysgolion ar agor lle y bo hynny’n bosibl. Os bydd amhariad ar ysgolion yn lleol yn y dyfodol, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn ‘datgan yn glir e[i] bod yn disgwyl i ysgolion wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau parhau dysgu’.

§    Dywed Llywodraeth Cymru hefyd ei bod wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r sector i ddatblygu canllawiau ar ddefnyddio modelau dysgu cyfunol a allai gynnwys addysg wyneb yn wyneb a darpariaeth ar-lein.

§    Mae'r papur briffio hwn yn nodi rhywfaint o wybodaeth gefndirol berthnasol a lincs i ffynonellau a chyhoeddiadau allweddol.

2.     Cyfnodau blaenorol pan gaewyd ysgolion a lleihawyd gweithrediadau: Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020

2.1.         Dysgu o bell gartref

Caewyd ysgolion ar gyfer darparu addysg statudol ddydd Gwener 20 Mawrth 2020 ar sail iechyd cyhoeddus oherwydd COVID-19. Arhosodd ysgolion ar agor i blant sy'n agored i niwed a phlant gweithwyr allweddol nad oedd gofal plant diogel arall ar gael ar eu cyfer, fel rhan o ‘ddiben newydd’ i ysgolion, gan alluogi’r ymateb i COVID-19. Ar ôl iddynt gau i'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion, roedd disgwyl i ysgolion gefnogi addysg disgyblion gartref, drwy ddefnyddio adnoddau ar-lein fel Hwb.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl blog ar 8 Ebrill sy’n rhoi mwy o wybodaeth am y cam hwn.

2.2.         ‘Dysgu cyfunol’

Ddydd Llun 29 Mehefin, dechreuwyd proses raddol, fesul cam, o ddychwelyd i'r ysgol. Diben hyn oedd i ddisgyblion 'Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi'ar gyfer yr hyn y mae Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg, wedi rhybuddio y bydd ‘yn debygol o fod yn dymor hydref hir a heriol iawn’.

Oherwydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol, wrth ddychwelyd yn raddol i’r ysgol roedd tua thraean o'r disgyblion yn bresennol yn yr ysgol ar unrhyw adeg benodol, ac roedd disgyblion yn cael cyfle i fynd i’r ysgol ar o leiaf dri achlysur cyn gwyliau'r haf. Roedd y rhan fwyaf o’r addysgu a'r dysgu’n parhau i fod ar-lein fel rhan o fodel 'dysgu cyfunol'.

Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd erthygl blog ar 16 Mehefin sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y cam hwn.

3.     Dychwelyd i’r ysgol: mis Medi 2020

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg ar 9 Gorffennaf y byddai'r holl ddisgyblion yn dychwelyd i ysgolion ar amserlen amser llawn o ddechrau'r tymor newydd ar 1 Medi 2020, yn ddibynnol ar yr amodau o ran ymlediad y coronafeirws. Daeth Llywodraeth Cymru i’r penderfyniad hwn yn dilyn cyngor gan ei Chell Cyngor Technegol, a argymhellodd:

y dylai ysgolion yng Nghymru gynllunio i agor ym mis Medi, gyda 100% o ddisgyblion yn gorfforol bresennol ar safleoedd ysgolion, cyn belled â bod lefelau COVID-19 yn parhau i ostwng yn gyson yn y gymuned, a bod mesurau priodol ar waith i ddiogelu staff a phlant.

Nododd y cyngor gwyddonol bwysigrwydd y cynllun Profi, Olrhain, Diogelu ac argymhellodd y dylai'r rhaglen olrhain cysylltiadau anelu at olrhain tuag 80 y cant o gysylltiadau, ac y dylid olrhain o leiaf 35 y cant ohonynt o fewn 24 awr.

Argymhellodd hefyd y dylai 'paratoadau ar gyfer gallu addysgu hyd at 100 y cant o’r plant o bell fod yn eu lle bob amser, rhag ofn bydd angen gwneud hynny'. Mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor ynghylch deiseb P-05-1015 yn cyfeirio at y posibilrwydd o amharu ymhellach ar addysgu yn lleol pe bai'r amodau'n dirywio. Mae dysgu cyfunol, felly, yn cael ei gadw i raddau helaeth fel cynllun wrth gefn posibl os oes angen. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Awst (paragraffau 13-20), mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu ailagor ysgolion yn ôl y capasiti sydd ar gael i lacio’r cyfyngiadau:

…penderfynodd y Cabinet yr wythnos diwethaf i gadw'r rhan fwyaf o'r hyblygrwydd sydd ar gael i ni i helpu i ailagor ysgolion yng Nghymru yn ddiogel ac yn llwyddiannus o 1 Medi ymlaen….

3.1.         Materion ymarferol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau gweithredol i ysgolion ynglŷn â rheoli’r broses o ddisgyblion yn dychwelyd, ynghyd â chanllawiau ar ddysgu. Mae adran Cwestiynau Cyffredin ar ei gwefan hefyd. 

Caniataodd Llywodraeth Cymru gyfnod o hyblygrwydd, gan gydnabod y bydd ysgolion o bosibl am ganolbwyntio ar grwpiau mewn blynyddoedd â blaenoriaeth, fel y rhai sy'n dechrau mewn ysgolion uwchradd, y rhai sy'n sefyll arholiadau yr haf nesaf neu'r rhai sydd yn y dosbarth derbyn. Roedd hyn yn rhoi amser, sef pythefnos cyntaf y tymor newydd, ar gyfer unrhyw waith cynllunio ac ad-drefnu, gyda disgyblion yn dychwelyd ar ddyddiadau gwahanol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi addasu gofynion y cwricwlwm statudol ac erbyn hyn mae gofyn i ysgolion wneud ymdrech resymol yn unig i addysgu’r cwricwlwm llawn. Mae'r addasiad hwn, a gyhoeddwyd o dan Ddeddf y Coronafeirws 2020, yn para hyd at 30 Medi 2020, a bydd y Gweinidog yn ei adolygu’n barhaus.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 31 Gorffennaf ei bod yn llacio'r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol ymhlith plant o dan 11 oed. Dywedodd fod hyn 'yn cyd-fynd â’r dystiolaeth wyddonol sy’n dangos bod y risg o drosglwyddo’r haint yn is yn y grŵp oedran hwn'. Fodd bynnag, ychwanegodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwysig iawn bod plant hŷn ac oedolion ifanc yn parhau i gadw pellter cymdeithasol gan fod lefel y risg yn wahanol yn y grwpiau oedran hyn.

Ar 26 Awst, gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei safbwynt ynglŷn â gorchuddion wyneb mewn ysgolion. Argymhellir y dylid defnyddio gorchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd ond nid mewn ysgolion cynradd. Er bod cyngor gwyddonol yn nodi nad yw gorchuddion wyneb yn debygol o wneud fawr o wahaniaeth mewn plant o dan 11 oed, fe'u hargymhellir ar gyfer holl aelodau’r cyhoedd dros 11 oed mewn lleoliadau dan do lle na ellir cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion uwchradd. O 14 Medi, rhaid gwisgo gorchuddion wyneb mewn siopau ac adeiladau dan do eraill.

4.     Pwyso a mesur y risg o drosglwyddo'r feirws mewn ysgolion yn erbyn y niwed i blant a phobl ifanc o ganlyniad i beidio â mynd i’r ysgol

4.1.         Cadw ysgolion ar agor lle y bo hynny'n bosibl

Fel y mae llythyr blaenorol gan y Gweinidog yn amlinellu, mae'n ‘rhaid cael cydbwysedd gofalus rhwng y risgiau hyn a’r effeithiau negyddol ar iechyd wrth beidio â mynd i’r ysgol. Mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru yn nodi:

Gan fod y sefyllfa wedi gwella erbyn hyn, mae’r cydbwysedd risg bellach yn gadarn o blaid bod plant yn dychwelyd i’r ysgol. Mae peidio â mynd i’r ysgol yn niweidiol i ddatblygiad gwybyddol ac academaidd plant, ac i’w hiechyd a’u lles, yn enwedig ymysg plant difreintiedig; a, gall hyn gael effaith yn y tymor byr a’r tymor hwy. Gwyddom fod cyflawniad academaidd is hefyd yn troi’n gostau economaidd tymor hir. Gwyddom hefyd fod cau ysgolion wedi effeithio ar allu rhai teuluoedd i weithio. Bydd anfon dysgwyr yn ôl i’r ysgol mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl yn arwain at fanteision cadarnhaol ar sawl agwedd, yn enwedig eu lles meddyliol ac emosiynol.

Ar 23 Awst, cyhoeddodd y pedwar Prif Swyddog Meddygol ledled y DU ddatganiad ar y cyd ynglŷn â’r dystiolaeth o risgiau a buddion i iechyd o ganlyniad i ailagor ysgolion a lleoliadau gofal plant. Dehonglwyd hyn fel rhywbeth sy’n ategu’r penderfyniad i ailagor ysgolion.

Mae llythyr y Gweinidog ynghylch deiseb P-05-1015 ‘Dylid categoreiddio ysgolion fel seilwaith hanfodol’ yn ailadrodd blaenoriaeth y Prif Weinidog i gadw ysgolion ar agor lle bo hynny'n bosibl. Mae hefyd yn cydnabod y posibilrwydd o amharu ar addysgu yn lleol yn y dyfodol.

Ar adeg ysgrifennu’r papur, mae ysgolion wedi aros ar agor ym Mwrdeistref Sirol Caerffili er gwaethaf y cyfyngiadau lleol gyda Llywodraeth Cymru yn dweud mai ‘cadw ysgolion/colegau ar agor os yw'n bosibl yw ein prif flaenoriaeth o hyd.’

4.2.         Dysgu cyfunol wrth gefn

Mae llythyr y Gweinidog ynghylch deiseb P-05-1011 ‘Gwersi rhithwir ar-lein dan arweiniad athrawon ar gyfer pob plentyn ysgol’ yn ailadrodd y byddai ysgolion yn agor yn llawn i bob disgybl ym mis Medi. Mae'n cyfeirio at y canllawiau ar ddysgu yn nhymor yr hydref ac mae hefyd yn nodi:

Yn ychwanegol at hynny, mae gwaith cynllunio’n cael ei gynnal i ymdopi ag amrediad o senarios a fyddai’n cynnwys cau ysgolion yn rhannol neu’n llwyr, os bydd angen inni wneud hynny o dan yr amgylchiadau penodol. Mae swyddogion wedi bod yn cydweithio â rhanddeiliaid o bob rhan o’r sector i ddatblygu canllawiau ar ddefnyddio modelau dysgu cyfunol a allai gynnwys addysg wyneb yn wyneb a darpariaeth ar-lein.

Mae’r Consortia Rhanbarthol wedi datblygu modelau ac enghreifftiau ar ddarparu dysgu cyfunol hefyd. Mae’r rheini ar gael i’r holl Awdurdodau Lleol ac i bob ysgol i’w cefnogi i barhau i ddarparu dysgu cyson ac o safon i bob dysgwr yng Nghymru, pe byddai angen defnyddio’r llwybrau hynny. [ychwanegwyd y print trwm gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd i roi pwyslais]

Hefyd, mae llythyr y Gweinidog yn dweud mai awdurdodau lleol ac ysgolion sy’n gyfrifol o hyd am ddarparu dysgu a’u cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion eu dysgwyr.

5.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cynnal sawl sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Addysg ynghylch yr amhariad ar addysg a pharhad addysg fel rhan o’i ymchwiliad i effaith argyfwng COVID-19 ar blant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cynhaliwyd y sesiynau hyn ar 19 Mawrth, 28 Ebrill a 7 Gorffennaf.

Hefyd, mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi comisiynu ymchwil ar ddulliau addysgu a dysgu o bellgan Dr Sofya Lyakhova ym Mhrifysgol Abertawe dan gynllun Cofrestr Arbenigwyr COVID-19 Gwasanaeth Ymchwil y Senedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.